Cofnodion Grŵp Trawsbleidiol 
  
 
  

 

 


Cofnodion cyfarfod:

 

Teitl y Grŵp Trawsbleidiol:

Trafnidiaeth Gyhoeddus

Dyddiad y cyfarfod:

30 Ebrill 2024

Lleoliad:

Microsoft Teams

 

Yn bresennol:

Enw:

Aaron Hill, Cydffederasiwn Cludiant Teithwyr Cymru (CPT Cymru)

Adam Marshall, Arriva

Alexander Still, Staff Cymorth Aelod o’r Senedd

Anna Banks, Staff Cymorth Aelod o’r Senedd

Barclay Davies, Defnyddwyr Bysiau Cymru

Bob Saxby

Chris Owens, Alpine Travel 

Y Cynghorydd William Denston Powell, Ffocws ar Drafnidiaeth Cymru

Colin Thomas, Trafnidiaeth Casnewydd

Craig Hampton Stone, Bws Caerdydd

David Beer, Ffocws ar Drafnidiaeth Cymru

Deb Harding, CCRA

Gareth Stevens, Bws Caerdydd

Hannah McCarthy, Staff Cymorth Aelod o’r Senedd

Helen Boggis, Staff Cymorth Aelod o’r Senedd

Ioan Bellin, Staff Cymorth Aelod o’r Senedd

Jenny Rathbone AS

Jonathan Coles, Adventure Travel

Kaarina Ruta, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth

Kirsty Rees

Lee Robinson, Trafnidiaeth Cymru

Lewis Brencher, Trafnidiaeth Cymru

Mason Steed, yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni

Morgan Stevens, Trafnidiaeth Casnewydd

Natasha Asghar

Olivia Jones

Richard Cope, ATCO

Rob Pymm, First Bus

Sarah Leyland, Cyngor Sir Powys 

Scott Pearson, Trafnidiaeth Casnewydd

 

 

 

Ymddiheuriadau:

Enw:

Teitl:

 Peredur Owen Griffiths AS

 

 

 Delyth Jewell AS

 

 

 

 

 

Adam Keen

Rheolwr Gyfarwyddwr, Adventure Travel

Martin Gibbon

Rheolwr Gyfarwyddwr, Stagecoach De Cymru

Brendan Kelly

Undeb Cenedlaethol y Gweithwyr Rheilffordd, Morwrol a Thrafnidiaeth (RMT)

 

Crynodeb o'r cyfarfod:

Gwnaeth Carolyn Thomas AS, Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol, agor y cyfarfod, gan groesawu'r rhai a oedd yn bresennol. Roedd Ken Skates AS, a benodwyd yn ddiweddar yn Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth, yn bresennol yn y cyfarfod.

Rhoddodd Ken Skates AS ddiweddariad ynghylch y 5 wythnos gyntaf yn ei rôl newydd:

·         Mae ganddo 3 prif flaenoriaeth: y flaenoriaeth gyntaf yw ymdrin â materion anodd, a dod â rhywfaint o undod lle bu anghydweld. Yr ail flaenoriaeth yw gweithredu ar gais y Prif Weinidog ynglŷn â datganoli i Ogledd Cymru. Mae’r drydedd flaenoriaeth yn ymwneud â darparu gwasanaethau, a chyflwyno Bil bysiau yn ystod y tymor hwn.

·         Bydd y Bil bysiau yn cael ei gyflwyno yn yr hydref, fel y gellid ei basio yn ystod y tymor hwn. Rhaid bod yn barod ar gyfer y drefn fasnachfreinio yn nhymor yr haf 2027.

·         Daeth yr Ysgrifennydd Cabinet i’r cyfarfod yn bennaf i wrando ar bryderon, syniadau ac awgrymiadau. Mae yn y broses o drefnu cyfarfodydd gyda chydweithwyr yn San Steffan, Aelodau unigol o’r Senedd, a llefarwyr y gwrthbleidiau. Bydd yn cyfarfod â nifer o gyrff a gynrychiolir yn y cyfarfod heddiw, Trafnidiaeth Cymru, grwpiau teithio llesol a grwpiau teithwyr.

Yna, gwahoddodd y Cadeirydd aelodau’r grŵp i ofyn cwestiynau.

·         Dywedodd Jenny Rathbone AS fod angen blaenoriaethu llwybrau bysiau o bwysigrwydd cymdeithasol. Mynegodd bryderon am yr amserlen ar gyfer y ddeddfwriaeth ar fysiau. Gofynnodd i’r Ysgrifennydd Cabinet sut y bydd yn cyflwyno mwy o lwybrau blaenoriaeth ar gyfer bysiau cyn gynted â phosibl. Gofynnodd sut y byddai modd gwella cost-effeithiolrwydd y broses o gynnal a chadw ffyrdd.

·         Soniodd Aaron Hill am amserlen y Bil bysiau a llithriadau posibl. Dywedodd fod diffyg amserlen a diffyg manylder yn destun cryn bryder o ran sefydlogrwydd a sicrwydd. O ran ysgogi newid moddol, mae angen newid diwylliant sylweddol. Felly, sut y gall aelodau'r grŵp hwn helpu’r broses o newid y naratif ynghylch bysiau, gan bwysleisio’r agweddau cadarnhaol? 

Ymatebodd Ysgrifennydd y Cabinet, fel a ganlyn:

·         Mae’r ffocws ar rymuso yn hytrach na chosbi. Mae angen buddsoddi mewn seilwaith a gwasanaethau er mwyn sicrhau bod gan bobl ddewis arall dymunol yn lle’r car, yn hytrach nag opsiwn eilradd yn unig. Bydd angen buddsoddiad sylweddol. Mae angen cyrraedd pwynt lle mae defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn fwy dymunol na defnyddio’r car.

·         Soniodd am fysiau trydan a hydrogen. Gwnaeth y system gleidr wahaniaeth enfawr yn ninas Glasgow. Bydd y broses o drawsnewid trafnidiaeth gyhoeddus yn thema allweddol wrth symud ymlaen.

·         O ran cyflwyno’r Bil bysiau ym mis Medi neu fis Ionawr, ni fyd y penderfyniad yn effeithio’r amserlen yn sgil etholiad y Senedd. Y cyfnod allweddol ar gyfer cyflwyno’r drefn fasnachfreinio fydd tymor yr haf 2027. Rydym yn dymuno iddo gael ei drafod cyn hynny.

·         O fis Mehefin ymlaen, bydd newidiadau i’r amserlen ar gyfer rheilffyrdd y Cymoedd a seilwaith y metro. Cyn bo hir, bydd Trafnidiaeth Cymru yn gwneud cyhoeddiad am y llinellau sydd wedi'u nodi.

·         Mae’r ddarpariaeth ar gyfer teithio gan ddysgwyr yn bennaf yn fater o’r adnoddau sydd ar gael. Mae awdurdodau lleol dan bwysau mawr ar hyn o bryd. Mae costau mawr ynghlwm â’r mater.

Cafwyd cwestiynau pellach.

·         Cododd Carolyn Thomas AS bryderon ynghylch pwysau chwyddiant a’r cynnydd enfawr a welwyd mewn costau trafnidiaeth gyhoeddus. Awgrymodd gynnal cynlluniau peilot wedi'u targedu, gyda’r nod o gapio prisiau neu ddarparu trafnidiaeth yn rhad ac am ddim i bobl ifanc.

·         Nododd David Beer fod cyllid trosiannol ar gael am y 12 mis nesaf yn unig, a gofynnodd beth oedd y trefniadau hyd at 2027. Sut y bydd y rhwydwaith yn cael ei gefnogi tan hynny? Beth yw'r mecanwaith ar gyfer casglu sylwadau teithwyr a rhoi ystyriaeth i wybodaeth leol ynghylch yr hyn sydd ei angen ar bobl?

·         Dywedodd Lee Robinson fod Trafnidiaeth Cymru yn y broses o ddrafftio methodoleg ar gyfer gweithio â rhanddeiliaid at ddibenion cyflwyno trefniant masnachfreinio, gan gynnwys awdurdodau lleol. Soniodd am y broses o gyd-greu cynllun ar gyfer y dyfodol.

·         Soniodd Scott Pearson am fusnesau bach a chanolig, ac am y broses o’u diogelu drwy’r system fasnachfreinio. Pwysleisiodd bwysigrwydd busnesau bach a chanolig, gan ofyn a oedd unrhyw warantau neu sicrwydd. Trafodwyd pwysigrwydd trefniadau rhanbarthol, gofynnwyd am y lefel o gefnogaeth ar gyfer y cydbwyllgorau corfforedig.

·         Nododd Carolyn Thomas AS bwysigrwydd cynnal hyder teithwyr o ran amserlenni, a dibynadwyedd. Soniodd am gynnal cynllun peilot rhanbarthol, gan weithio â rhanddeiliaid, y Comisiynydd Pobl Hŷn, ac awdurdodau lleol. Soniodd am gymorth ar gyfer pobl ag anableddau.

Ymatebodd Ysgrifennydd y Cabinet, fel a ganlyn:

·         Mae cynlluniau’r sector bysiau yn bwysig iawn o ran sicrhau sefydlogrwydd yn y sector. Mae cynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol yn cael eu dyfeisio ar sail ranbarthol er mwyn sicrhau bod gennym y rhwydwaith gorau posibl hyd at 2027. Wrth inni symud tuag at system fasnachfreinio, bydd rôl cynghorwyr sir yn hollbwysig o ran hysbysu'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau. 

·         Dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet ei fod yn ymwybodol iawn o’r angen i ddiogelu busnesau bach a chanolig. Maent yn darparu cyflogaeth yn ogystal â thrafnidiaeth mewn cymunedau gwledig. Dywedodd ei fod yn credu mewn gweithio rhanbarthol, a bod mecanweithiau bellach ar waith.

·         Pwysleisiodd bwysigrwydd rôl comisiynwyr. Mae hyn yn wir ar bob cam o’r broses o gynllunio a gweithredu polisïau. Hyder mewn gwasanaethau yw'r mater pwysicaf o ran ysgogi defnydd gan gwsmeriaid. Mae prydlondeb yn gwneud gwahaniaeth enfawr i Drafnidiaeth Cymru. Gwelwyd adferiad da yn y defnydd o reilffyrdd yng Nghymru o gymharu â'r hyn a welwyd yn y rhan fwyaf o'r DU. Mae’r cysylltiadau rhwng gwasanaethau trên a gwasanaethau bws yn bwysig. Mae gwerth mewn cael gyrwyr bws sy’n gyfeillgar ac yn groesawgar.

Codwyd pwyntiau eraill gan aelodau’r grŵp.

·         Cododd Craig o Fws Caerdydd bryderon am yr iaith a ddefnyddir, gan nodi bod gweithredwyr wedi rhoi elw o flaen pobl am gyfnod rhy hir. Bydd cyfnod o ansicrwydd ariannol rhwng diwedd y cyfnod grantiau a dechrau’r cyfnod masnachfreinio, a bydd y broses o wneud penderfyniadau buddsoddi strategol yn heriol.

·         Soniodd Jenny Rathbone AS am integreiddio trafnidiaeth ar gyfer dysgwyr â thrafnidiaeth gyhoeddus. Mewn ardaloedd trefol, rhaid sicrhau llwybrau bysiau sy'n gwasanaethu ysgolion uwchradd. Mewn ardaloedd gwledig, hoffai weld safbwyntiau pobl ar ganiatáu i aelodau o'r cyhoedd deithio ar wasanaethau ysgolion. Soniodd am ystyried dull prif ganolfan a lloerennau mewn ardaloedd gwledig, ac am y defnydd o feiciau trydan a bysiau.

·         Yn ôl Chris Owens o Alpine Travel, os ydych yn darparu gwasanaeth dibynadwy o safon, bydd pobl yn ei ddefnyddio. Yn sgil yr helbul a welwyd, gofynnodd am yr hyn a fydd yn digwydd ar ôl y pecyn ariannu 12 mis. Mae Manceinion wedi ail-gomisiynu bysiau. Mae angen cyfathrebu â’r diwydiant, ac mae angen map ffordd ar gyfer ble y dylem fod yn buddsoddi. Ar hyn o bryd, rydym yn buddsoddi mewn twristiaeth, yn hytrach na thrafnidiaeth gyhoeddus.

·         Soniodd Natasha Asghar AS am brentisiaethau i gefnogi’r diwydiant bysiau.

Cyflwynodd y Cadeirydd y pwynt nesaf ar yr agenda, sef blaenoriaethau’r Grŵp Trawsbleidiol ar gyfer y dyfodol:

·         Nododd Aaron Hill fod ffocws sylweddol ar fysiau hyd yn hyn yn y Grŵp Trawsbleidiol. Mae cyfle i ehangu hynny. Mae angen newid diwylliant o ran y canfyddiad o drafnidiaeth gyhoeddus.

·         Soniodd David Beer am waith London TravelWatch ar ddiogelwch a sicrwydd personol. Soniodd am bwysigrwydd sicrhau gwerth am arian. Tynnodd sylw at y cysyniad un tocyn, gan nodi y dylai fod yn rhan o’r adolygiad bysiau. Mae angen fforddiadwyedd ar bobl nawr. Soniodd am ba mor atyniadol yw trafnidiaeth gyhoeddus yng nghyd-destun biliau aelwydydd. Tynnodd sylw at allu gweithredwyr i wneud cynigion gan wybod y byddant yn cael eu cefnogi yn eu tro.

·         Soniodd Craig am y ffaith bod cwsmeriaid am gael gwasanaethau dibynadwy. O ran cynlluniau â blaenoriaeth, cyhoeddodd Cyngor Caerdydd ei gynlluniau ym mis Mawrth. Trosglwyddodd Lee Waters AS y cyfrifoldeb i awdurdodau lleol. Mae pobl am weld cynnydd o ran dibynadwyedd, a gallwn sicrhau hynny pan ddaw cynlluniau â blaenoriaeth i rym.

·         Soniodd Sarah Leyland am integreiddio mewn cymunedau gwledig. Os ydym am integreiddio gwasanaethau, mae angen edrych ar y mater o gerdyn teithio rhatach yng nghyd-destun trwyddedau adran 22 a thrwyddedau adran 19. Cyngor Sir Powys O dan Adran 19, ni ellir derbyn consesiynau ar gyfer gwasanaethau galw’r gyrrwr sy’n seiliedig ar aelodaeth. O dan Adran 22, gellir derbyn consesiynau.

·         Dywedodd y Cynghorydd William Denston Powell fod y cyfarfod yn un calonogol iawn, o ran presenoldeb ac ehangder y pynciau a drafodwyd. O ran diogelwch teithwyr, mae Delyth yn datblygu gwaith ar y pwnc hwn. Tan yn ddiweddar, roedd cynrychiolydd o Gymru yn gwasanaethu ar fwrdd Heddlu Trafnidiaeth Prydain.

Diolchodd y Cadeirydd i bawb am fod yn bresennol, a daeth â’r cyfarfod i ben.